Public Health Wales statement on Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak
This statement will be updated daily at midday
Statement: Updated at 7pm on Saturday 19 December 2020 Dr Chris Williams, Incident Director for the Novel Coronavirus (COVID-19) outbreak response
at Public Health Wales, said: “Public Health Wales is working with the Welsh Government,
local health boards, local authorities and other partners following the
announcement of national restrictions in Wales from midnight. “Under the new restrictions, people must stay at home, except
for very limited purposes. People must
not visit other households or meet other people they do not live with. Non-essential retail, close contact services,
gyms and leisure centres, and hospitality will also close. “Rules which allow two households to come together to
form a Christmas bubble will now apply on Christmas Day only. “As indicated by the Welsh Government, the immediate
introduction of new restrictions is related to the identification of a new more
transmissible variant of Coronavirus.
Public Health Wales has been working with UK partners to investigate and
respond to this variant. “It is normal for viruses to undergo mutations, and we
expect this to happen. Although the
variant is easier to transmit, there is currently no evidence that it is more
severe. “We are reminding people that all current guidance
relating to Coronavirus continues to apply to the new variant, including advice
relating to symptoms, social distancing, self-isolation, and vaccination. “The new variant shows up as positive in Public Health
Wales’ existing Coronavirus tests, and people must continue to seek a test in
the usual way if they develop Coronavirus symptoms. “If you or a member of your household develop a
cough, fever or change in sense of taste or smell, you must self-isolate
immediately and book a free Coronavirus test, either by calling 119 or by clicking here.
“Public Health Wales
urges everyone to follow the rules, to avoid transmission of Coronavirus and to
protect everyone in our communities, including the most vulnerable.” Dywedodd Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr
Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i'r achosion o'r Coronafeirws Newydd (COVID-19)
yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a
phartneriaid eraill yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau cenedlaethol yng Nghymru o hanner
nos ymlaen. "O dan y cyfyngiadau newydd,
mae'n rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn. Rhaid
i bobl beidio ag ymweld ag aelwydydd eraill na chwrdd â phobl eraill nad ydynt
yn byw gyda nhw. Bydd manwerthu nad yw'n
hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd a chanolfannau hamdden, a
lletygarwch hefyd yn cau. "Bydd y rheolau sy'n caniatáu i
ddwy aelwyd ddod at ei gilydd i ffurfio swigen Nadolig yn berthnasol ar Ddydd
Nadolig yn unig nawr. "Fel y nododd Llywodraeth
Cymru, mae cyflwyno cyfyngiadau newydd ar unwaith yn gysylltiedig â chanfod
amrywiad newydd mwy trosglwyddadwy o’r Coronafeirws. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn
gweithio gyda phartneriaid yn y DU i ymchwilio i'r amrywiad hwn ac ymateb iddo. "Mae'n arferol i feirysau newid,
ac rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd. Er
bod yr amrywiad yn haws ei drosglwyddo, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd ei
fod yn fwy difrifol. "Rydym yn atgoffa pobl bod yr
holl ganllawiau cyfredol sy'n ymwneud â’r Coronafeirws yn parhau i fod yn
berthnasol i'r amrywiad newydd, gan gynnwys y cyngor sy'n ymwneud â symptomau, cadw
pellter cymdeithasol, hunanynysu, a brechu. "Mae'r amrywiad newydd yn
dangos yn positif ym mhrofion Coronafeirws presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru ac
mae'n rhaid i bobl barhau i gael prawf yn y ffordd arferol os ydynt yn datblygu
symptomau’r Coronafeirws.” “Os byddwch chi neu aelod o'ch aelwyd yn datblygu
peswch, twymyn neu newid i synnwyr blasu neu arogli, rhaid i chi hunanynysu ar
unwaith a threfnu prawf Coronafeirws am ddim naill ai drwy ffonio 119 neu drwy glicio yma.
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i ddilyn
y rheolau, i osgoi trosglwyddo’r Coronafeirws ac i ddiogelu pawb yn ein
cymunedau, gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed.”
---